SL(5)221 - Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) (Diwygio) 2018

Cefndir a Diben

Bydd y Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010. Mae'r Rheoliadau'n trosi'r gofynion ychwanegol a bennir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1787, sy'n cyd-fynd ag egwyddorion Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer samplu a dadansoddi cyflenwad dŵr yfed yn seiliedig ar risg, sy'n adlewyrchu cynnydd gwyddonol a thechnegol wrth warchod iechyd y cyhoedd.

Mae'r Rheoliadau'n ymwneud yn bennaf ag ansawdd y dŵr a gyflenwir gan ymgymerwyr dŵr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru (a thrwyddedeion cyflenwi dŵr sy'n defnyddio systemau cyflenwi ymgymerwyr o'r fath) ar gyfer yfed, golchi, coginio a pharatoi bwyd, ac ar gyfer cynhyrchu bwyd, a chyda threfniadau ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am ansawdd dŵr.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.     Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud yn Saesneg yn unig. Mae'r memorandwm esboniadol yn dweud y byddant yn gymwys i weithrediad cwmnïau dŵr sy'n darparu dŵr yfed yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru. Fodd bynnag, maent hefyd yn gymwys mewn rhannau o Loegr ac felly fe'u gosodir ar yr un pryd yn Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel sy'n ofynnol gan adran 59(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni phennir unrhyw reswm yn y memorandwm esboniadol pam mae'r rheoliadau hyn wedi'u gwneud yn Saesneg yn unig.

(Rheol Sefydlog 21.2(ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;).

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.     Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi'n uniongyrchol ofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC (y Gyfarwyddeb Dŵr Yfed (DWD)) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1787. Y dyddiad cau ar gyfer trosi Cyfarwyddeb 2015 oedd 27 Hydref 2017. Ni chyrhaeddwyd y terfyn amser hwn a gosodwyd y rheoliadau hyn tua 8 mis ar ôl y terfyn amser hwn. Ym mhennod 2 o'r memorandwm esboniadol mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r eglurhad a ganlyn am yr oedi o ran gweithredu:

“The regulations impact on water undertakers who have responsibilities in both England and Wales. Following engagement with the water companies, officials agreed to align the Welsh set of Regulations with the English Regulations; to ensure water companies were not working to two different sets of Regulations with differing requirements, which would impact on their operational efficiency and removes duplication of work within the affected water undertakers.  Officials therefore agreed to work to Defra’s timeline to ensure that any changes made to the English Regulations were also included in the Welsh Regulations. 

 

Defra’s timeline has been delayed due to a number of circumstances including delays in their consultation process.  If the Welsh Regulations were laid before the final amendments to the English Regulations were made, the regulations would once again differ in specifics for no policy reason.  This would not be in the interests of the water undertakers impacted by these Regulations.  Defra accept that the delay in laying these regulations is due to the English timeline slipping.”

(Rheol Sefydlog 21.3 (iv) ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol.)

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gwneir y Rheoliadau hyn yn rhannol o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae'r Rheoliadau hyn yn codi o rwymedigaethau'r UE o dan Gyfarwyddeb Comisiwn yr UE 2015/1787 mewn perthynas ag ansawdd y dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i'w ddefnyddio wrth gynhyrchu bwyd. Bydd y Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

6 Mehefin 2018